CYFANSODDWYR

 

 

W.S. Gwynn Williams
1896 -1978
Ganwyd William Stanley Gwynn Williams (1896-1978) yn Llangollen, ac heb unrhyw amheuaeth, ef oedd un o gerddorion mwyaf dylanwadol yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Bu’n flaenllaw mewn gweithgareddau amryw o sefydliadau cerddorol pwysicaf Cymru, gan fod yn Gyfarwyddwr Cerdd yr Orsedd (o 1923), Ysgrifennydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru (1932-58) gan olygu eu cylchgrawn (o 1946), Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen ers ei sefydlu yn 1947, Cadeirydd Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru (o 1969) a Golygydd a pherchennog Cwmni Cyhoeddi Gwynn o 1937.
Bu’n gyfansoddwr a threfnydd cynhyrchiol, gan ganolbwyntio ar ganeuon a darnau corawl, ynghyd â bod yn hanesydd o fri gyda’i lyfr Welsh National Music and Dance (1932) yn dal i gael ei gydnabod fel hanes cryno mwyaf cynhwysfawr o gerddoriaeth y wlad hyd heddiw. Yn ogystal, bu dylanwad y ddwy gyfrol o Ganeuon Traddodiadol y Cymry a’r casgliad o Ceinciau’r Cymry (1969) o bwys mawr dros y blynyddoedd.


Mervyn Burtch
1929 -
Ganwyd Mervyn Burtch yn Ystrad Mynach yn 1929. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, a bu'n athro cerdd ar hyd ei fywyd. Wedi dysgu am gyfnod hir mewn ysgolion, ymunodd â staff Coleg Cerdd a Drama Cymru yn 1979. Yn 1994, cafodd ei apwyntio yn bennaeth y Cwrs Perfformio. Tyfodd y galw am ei gerddoriaeth dros y blynyddoedd, ond parhaodd fel athro yn y Coleg hyd 1999. Er hynny mae’n dal i ddilyn gyrfa lwyddiannus iawn fel cyfansoddwr.
Mae ei drefniannau ar gyfer corau meibion yn hynod boblogaidd (Pum Cân Werin Gymreig), ynghyd â’i ddarn comisiwn diweddar ar gyfer Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru Genedigaeth Taliesin. Ganwyd Mervyn Burtch yn Ystrad Mynach yn 1929. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd, a bu'n athro cerdd ar hyd ei fywyd. Wedi dysgu am gyfnod hir mewn ysgolion, ymunodd â staff Coleg Cerdd a Drama Cymru yn 1979. Yn 1994, cafodd ei apwyntio yn bennaeth y Cwrs Perfformio.

Mansel Thomas
1909 -1986
Bu Mansel Thomas (1909-1986) yn un o gerddorion mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth yng Nghymru. Fe’i ganwyd ym Mhontgwaith yn y Rhondda Fach, a dangosodd dalent naturiol fel cyfansoddwr a phianydd yn ei blentyndod. Yn bymtheg oed enillodd Ysgoloriaeth y Rhondda i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain o dan oruchwyliaeth Benjamin Dale gan raddio yn 1930. Ymunodd gyda’r BBC yng Nghaerdydd yn 1936 fel cynhyrchydd ac arweinydd cynorthwyol o Gerddorfa Gymreig y BBC, ac yn 1950 fe’i apwyntiwyd fel Pennaeth Cerdd, BBC Cymru.
Yn 1965 penderfynodd ymddeol yn gynnar er mwyn canolbwyntio ar gyfansoddi, lle y mwynhaodd cyfnod mwyaf cynhyrchiol ei yrfa drwy lunio dwy dreuan o’i holl gyfansoddiadau lleisiol unawdol. Yn gynnar yn ei yrfa dangosodd allu anhygoel i gyfansoddi caneuon, a ddaeth i fod yn brif gyfrwng artistig creadigol iddo, ac o ganlyniad cafwyd dros 150 o ganeuon a threfniannau lleisiol. Ymysg ei ganeuon gorau ceir Y Bardd, sy’n osodiad dwys o englynion enwog R Williams Parry, Hedd Wyn. Ysbrydolodd y gân hon ddwyster ac ing a oedd yn brin iawn yng ngweddill ei gynnyrch, fel y dywedodd William Mathias “…os oes gosodiad mwy anesmwyth o eiriau Cymraeg, ni wn amdano.” Parha statws uchel Mansel Thomas fel cyfansoddwr Cymreig hyd heddiw, ac fe’i anrhydeddwyd gyda’r OBE a’r PRAM am ei wasanaeth i gerddoriaeth ym Mhrydain. Gadawodd gyfoeth o gyfansoddiadau amhrisiadwy, gyda nifer ohonynt ond yn dod i’r amlwg (hyd yn oed i’w deulu) wedi ei farwolaeth.


Alun Hoddinott
1929 -
Ganwyd Alun Hoddinott ym Margoed, Sir Forgannwg yn 1929. Enillodd ysgoloriaeth i astudio yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd cyn mynd ymlaen i astudio gyda’r cyfansoddwr a’r pianydd o Awstralia, Arthur Benjamin. Wedi derbyn gwobr gyfansoddi Walford Davies pan yn bedwar ar hugain, yn 1951 fe’i apwyntiwyd yn ddarlithydd cerdd yn y Coleg Cerdd a Drama Caerdydd. Daeth yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd ac yn ddiweddarach fe’i penodwyd yn Athro a Phennaeth Adran yn 1967.
Fe’i cydnabyddir fel un o gyfansoddwyr mwyaf llewyrchus Cymru gan fedru troi ei law at unrhyw gyfrwng cerddorol. Gydag arddull gromatig mae ei gerddoriaeth yn cynnwys dwyster tywyll Celtaidd, sy’n aml yn treiddio drwodd yn ei symudiadau araf.

Grace Williams
1906 -1977
Ganwyd Grace Williams (1906-1977) yn y Bari, ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Bari cyn graddio gyda B.Mus yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd yn 1926. Parhaodd ei hastudiaethau cerddorol gyda Vaughan Williams a Gordon Jacob yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ynghyd â Egon Wellesz yn Fienna. Wedi cyfnod o ddysgu yn Ysgol Ferched Camden Llundain, ac yna Coleg Addysgol Southlands, dychwelodd i Gymru yn 1946 i weithio ar wahanol raglenni addysgol i’r BBC ac fel cyfansoddwraig llawrydd.
Yn gynnar yn ei gyrfa fe sefydlodd ei hun fel un o brif gyfansoddwyr ei chyfnod yng Nghymru, gan weithio gan amlaf i gomisiwn gan y BBC a gwahanol wyliau cerddorol. Bu cyfraniad ei chaneuon a’i darnau corawl o bwys mawr i’r repertoire lleisiol Gymreig, gyda nifer o drefniannau gwerin (megis Dacw ‘Nghariad i Lawr yn y Berllan a Hela Llwynog) a rhan-ganau megis Yr Eos a Rhosyn Duw yn dangos aeddfedrwydd creadigol. Ceir nifer o recordiadau o’i cherddoriaeth ar labeli Chandos a Lyrita.

Meirion Williams
1901 -1976
Ganwyd Meirion Williams (1901-1976) yn Nyffryn Ardudwy, a chyda phresenoldeb cerddorol cryf ar yr aelwyd gan ei fam (Mary Elizabeth Williams, 1875-1947) fe ymddiddorodd mewn cerddoriaeth yn ifanc iawn. Wedi dwy flynedd o astudio cerddoriaeth gyda Syr Walford Davies yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth penderfynodd ddilyn cwrs yn yr Academi Frenhinol yn Llundain, gan ennill amryw o wobrau am chwarae’r piano. Fel cyfansoddwr caneuon y cofir Meirion Williams yn bennaf.
Yn 1928 sefydlodd ei hun fel cerddor llawrydd yn Llundain cyn i'r rhyfel amharu ar ei yrfa ym 1939. Yn ddiweddarach cynyddodd ei statws fel cyfansoddwr amryddawn drwy dderbyn tri chomisiwn gan y BBC, gan gynnwys Adlewych yn 1968. Aeth ati i drwytho ei hun yng ngweithiau cyfansoddwyr megis Schubert, Richard Strauss, Wolf a Rachmaninov, ac nid oedd ganddo gywilydd arddel dylanwad ambell un o'r cyfansoddwyr hynny ar rai o'i ganeuon adnabyddus.
Parhaodd pethau syml a chyffredin bywyd-cefn-gwlad i apelio ato. Swynwyd ef gan flodau a hefyd gan harddwch ac ysblander ambell olygfa gyfarwydd yng Ngwynedd, ac wedi iddo ymgartrefu ymhell o'i gynefin nid oedd syndod gweld bod delweddau megis "Y Blodau ger y drws", "Rhosyn yr haf", "Y Llyn", "Cwm Pennant" a'r "mynyddau mawr" yn dal i'w ysbrydoli.


Pwyll Ap Sion
1968 -
Ganed Pwyll ap Siôn yn Sir Benfro yn 1968. Astudiodd gyda Gareth Glyn, ac yna mynd i Goleg Magdalen, Rhydychen, gan raddio yno yn 1990. Aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Bangor, gan astudio gyda John Pickard, David Gottlieb a Martin Butler. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth yn 1998. Bu’n ddarlithydd ym Mangor ers 1993. Enillodd Wobr Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn a’r Cylch yn 1991.
Mae Pwyll wedi cyfansoddi ar gyfer rhai o berfformwyr amlycaf Cymru, gan gynnwys Bryn Terfel, Iwan Llewelyn-Jones, Jeremy Huw Williams, a Llŷr Williams, ynghŷd ag artistiaid o’r tu hwnt i Gymru, megis Ensemble Tozai.
Clywir ei gerddoriaeth ar recordiau gan Bumawd Prês Opera Cenedlaethol Cymru, Jeremy Huw Williams (Baritone), Iwan Llewelyn-Jones (Piano), y gantores Buddug Verona James, a Deuawd Biano Davies.
Dengys nifer o elfennau eclectaidd i’w arddull gerddorol, gan gynnwys lleiafsymiaeth, canu roc a phop, ôl-gyfresiaeth, ymwybyddiaeth o elfennau traddodiadol Cymreig, a’r defnydd o ddyfyniadau.

Rhys Jones
1927 -
Ganwyd Rhys Jones yn 1927 a bu’n athro ysgol am yn agos i ddeugain mlynedd. Y mae’n gyfarwyddwr cerdd Cantorion Gwalia ers 1958, ac wedi bod yn gyfeilydd a beirniad eisteddfodol ers nifer o flynyddoedd. Bu’n cyfansoddi sawl sioe gerdd, gan gynnwys Ciliwch rhag Olwen (Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd 1972) a Ffantasmagoria (Wrecsam 1975).
Y mae’n gyflwynydd rhaglenni ar BBC Radio Cymru ynghyd â chyflwyno’r rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol. Cyfansoddodd nifer o ganeuon i blant, amryw ohonynt wedi dod yn dra poblogaidd ar restr testunau Eisteddfodau’r Urdd, er enghraifft Snwcer i Mi ar gyfer SA.

John Hywel
1941 -
Ganwyd John Hywel ym Mae Cemaes, Ynys Môn yn 1941 a dechreuodd gyfansoddi pan yn ddeuddeg oed. Fe’i haddysgwyd yn ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch cyn astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Bangor gan raddio yn 1962 a derbyn M.Mus dwy flynedd yn ddiweddarach. Wedi astudio cyfansoddi gyda Reginald Smith Brindle a William Mathias aeth ymlaen i astudio arwain gyda Maurice Miles yn yr Academi Gerdd Frenhinol gan ennill gwobr arwain Ernest Read yn 1965.
Fe’i penodwyd yn ddarlithydd yn yr Adran Gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Bangor yn 1966, gan ddod yn Bennaeth Adran rhwng 1987 ac 1991. Arbenigodd mewn arwain cerddorfeydd a chorau, gan gynnwys Côr, Cerddorfa a Chymdeithas Opera y Brifysgol, ynghyd â Chantorion Seiriol, Cantorion Menai, Côr Pwllheli a’r Cylch, a Chorau Meibion Caernarfon a’r Traeth, ymysg eraill. Arweiniodd gerddorfeydd proffesiynol megis y Northern Sinfonia a Cherddorfa Gymreig y BBC.
Gwasanaethodd fel Golygydd Cerdd a Chyfarwyddwr Cwmni Cyhoeddi Gwynn o 1984 i 2002. Bu’n gyfrifol am lawer o drefniannau ar gyfer corau, megis ei gyfres o ganeuon gwerin Mae ‘Nghariad I’n Fenws, Ar Lan y Môr, ac Oes Gafr Eto? ar gyfer SATB, ynghyd â’r gyfrol hynod boblogaidd Caneuon Enwog Cymru.

Dilys Elwyn Edwards
Ganwyd Dilys Elwyn-Edwards yn Nolgellau yn Sir Feirionnydd. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Dr Williams, Dolgellau, ac ar ôl dilyn cwrs gradd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Prirysgol Caerdydd aeth ymlaen i astudio cyfansoddi gyda Herbert Howells yn y Coleg Brenhinol yn Llundain. Dewisodd arbenigo mewn cerddoriaeth leisiol ac y mae bellach yn cael ei chydnabod fel un o brif gyfansoddwyr Cymru.
Ysgrifennodd y mwyafrif o'i gweithiau i gomisiwn ac y maent wedi eu perfformio'n helaeth mewn cyngherddau, darllediadau radio a theledu, ym Mhrydain a thu hwnt. Cafodd un comisiwn ei berfformiad cyntaf yn ddiweddar ym Mhrifysgol y North Western yn Chicago ac y mae ei chyfansoddiadau, yn arbennig ei chaneuon, yn dod yn fwyfwy poblogaidd yn yr Unol Daleithiau.
Ymysg ei gwaith enwocaf ceir Caneuon y Tri Aderyn, cylch o dair cân a gomisiynwyd gan y BBC yn 1961. Dros y blynyddoedd fe berfformiwyd a recordiwyd y cylch gan amryw o unawdwyr cydnabyddedig y wlad, gan gynnwys Charlotte Church, ac fe gydnabyddir Mae Hiraeth yn y Môr ymhlith y caneuon celf gorau a ysgrifenwyd gan gyfansoddwr Cymraeg, ac yn ffefryn arbennig gan gynulleidfaoedd gartref a thramor.


Gareth Glyn
1951 -
Ganed Gareth Glyn ym Machynlleth ym 1951 a graddiodd mewn Cerddoriaeth yng Ngholeg Merton Rhydychen, ac mae'n dal LRAM fel Cyfansoddwr o'r Academi Gerdd Frenhinol. Dechreuodd gyfansoddi pan yn ddisgybl yn Ysgol Maes Garmon, Yr Wyddgrug gan dderbyn darllediadau o’i weithiau tra'r oedd yn dal yn fyfyriwr.
Trodd at gyfansoddi fel gyrfa ar ôl ennill sawl cystadleuaeth gyfansoddi yn y 1970au, ac ers hynny nid yw wedi bod heb gomisiwn ar y gweill. Perfformir ei weithiau ledled y byd gyda sawl recordiadau o’i gyfansoddiadau. Cafodd ei urddo'n Dderwydd Er Anrhydedd yng Ngorsedd Beirdd Ynys Prydain, ac yn Gymrodor Er Anrhydedd gyda Phrifysgol Cymru, Bangor, am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru.
Mae ei arddull yn ysgafn ac egnïol gan apelio at groesdoriad eang o gorau ac unawdwyr. Un o’r darnau mwyaf poblogaidd yw Cadwyn, sef trefniant o bum cân werin Cymreig (gan gynnwys Suo Gân) ar gyfer SATB. Yn ogystal ceir Seren Newydd, sef drama gerdd y geni ar gyfer unawdwyr a chôr, ynghyd â Gen i Farch Glas ar gyfer TTBB.

William Mathias
1934 -1992
Cydnabyddir William Mathias fel un o gyfansoddwyr mwyaf Cymru. Fe’i ganwyd yn Hen Dy Gwyn ar Dâf, ac astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth cyn ennill ysgoloriaeth i astudio’r piano a chyfansoddi yn yr Academi Gerdd Frenhinol. O 1970 hyd 1988 bu’n Athro yr Adran Gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Bangor, gan ei ethol yn F.R.A.M. yn 1965, derbyn Gwobr Gymdeithas Bax yn 1968, a D.Cerdd anrhydeddus gan Gôr Coleg Westminster, Princeton yn yr UDA, lle ceir perfformiadau aml o’i gerddoriaeth. Yn 1985 fe’i hanrhydeddwyd gyda’r C.B.E. Cymerodd ran amlwg mewn bywyd cyhoeddus drwy fod yn Lywodraethwyr y BBC, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, a
Llywydd yr ISM. Sefydlodd Wyl Gerdd Gogledd Cymru yn Llanelwy yn 1972 a bu’n Gyfarwyddwr Artistig arni hyd ei farwolaeth annisgwyl yn 1992. Nodwedd amlycaf ei gerddoriaeth yw yr arddull liwgar, rhythmig, ac eang ei hapel, a sicrhaodd iddo boblogrwydd ymysg cynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Ymysg ei gerddoriaeth orau y ceir y cantata ddramatig St Teilo, a’r gosodiad gwreiddiol TTBB o Gweddi’r Arglwydd a gyfansoddwyd yn union cyn ei farwolaeth.

Bookmark and Share