NEWYDDION

Ebrill 2017

CYHOEDDI ‘CANU HAF - casgliad newydd o garolau haf traddodiadol

Ar Wyl Banc Mai 2017 cyhoeddwyd y gyfrol ‘Canu Haf’, casgliad o garolau haf traddodiadol wedi eu golygu gan Arfon Gwilym a Sioned Webb.

Mae’r gyfrol newydd hon yn seiliedig ar gyfrol arall o’r un enw a gyhoeddwyd gan Gwmni Gwynn yn ôl yn 1944, wedi ei golygu gan W. S. Gwynn Williams. Cynhwyswyd chwech o’r carolau a oedd yn y gyfrol honno yn y gyfrol bresennol, ac ychwanegwyd 12 arall, gyda threfniannau tri llais i bob un ond dwy. Deunaw o garolau i gyd felly.

Mae rhai o’r carolau hyn yn dyddio’n ôl i ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg ac yn adlewyrchu’r arferiad bryd hynny i bartïon bychain grwydro’r wlad o le i le yn cyfarch y teuluoedd - yn croesawu Calan Mai a dyfodiad yr haf, yn diolch i’r Hollalluog am ei haelioni ac yn dymuno’n dda i drigolion y ty.

Geiriau ac alawon traddodiadol sydd i fwyafrif y carolau, ond fe aed ati hefyd i gomisiynu geiriau ac alawon newydd, gan gadw at ysbryd a naws y carolau traddodiadol. Allan o’r 18 carol mae pump o’r alawon yn newydd (gan Sioned Webb, Mair Tomos Ifans ac Arfon Gwilym) a dwy o’r cerddi yn newydd (gan Alan Llwyd ac Ifor Baines). Mae’r ddwy gerdd yma wedi eu cyfansoddi ar fesur hynafol y tri-thrawiad, sy’n gyfuniad cymhleth o’r hen fesurau caeth a’r mesurau rhydd newydd - cymysgedd unigryw o gynghanedd ac odlau.

Meddai Arfon Gwilym ar ran Cwmni Gwynn: “Er fod yr arfer o gerdded y wlad i ganu ‘dan y pared’ ar adeg Calan Mai wedi hen ddiflannu, mae’r carolau hyn yn rhan bwysig o’n hetifeddiaeth ac yn werth eu canu mewn unrhyw oes, wrth i fyd natur ddeffro unwaith eto ar ôl misoedd oer y gaeaf.”

Cliciwch yma i weld y poster


Tachwedd 2016

AMRYWIAETH O GYHOEDDIADAU NEWYDD

1. MABINOGI gan Héctor Macdonald; geiriau gan Mererid Hopwood
Gwaith mewn deuddeg rhan ar gyfer lleisiau merched. Fe’i perfformiwyd fel cyfanwaith am y tro cyntaf yn 2007 gan Ysgol Gerdd Ceredigion, o dan arweiniad Islwyn Evans.
Gellir cyflwyno hwn yn ei gyfanrwydd neu fesul cân unigol.
Brodor o’r Gaiman yng Ngwladfa Gymreig Patagonia yw Hector, a Mererid yn un o feirdd mwyaf adnabyddus Cymru.

2. CANEUON TIR A MÔR gan Catrin Angharad Jones.
Mae Catrin yn arweinydd llwyddiannus ar dri o gorau ar Ynys Môn, yn athrawes ac yn gantores. Ar gyfer cystadlaethau Côr Gwerin yr Eisteddfod a’r Ŵyl Cerdd Dant dros y blynyddoedd, cyfansoddodd amryw o drefniannau o ganeuon gwerin, ac yn awr casglwyd y cyfan ynghyd mewn dwy gyfrol ar wahân - un ar gyfer lleisiau meibion a’r llall ar gyfer lleisiau merched.

3. TRI CYFANSODDIAD NEWYDD gan Brian Hughes
Cariad Cyntaf - trefniant o’r gân werin adnabyddus ar gyfer lleisiau SATB
A Ei Di’r Deryn Du? - trefniant o’r gân werin adnabyddus ar gyfer lleisiau TTBB
Capel Tygwydd - trefniant o emyn-dôn David Jenkins ar gyfer lleisiau TTBB

Brodor o Rosllannerchrugog yw Brian Hughes. Ef yw un o’r cyfansoddwyr mwyaf blaengar ac uchaf ei barch ar gyfer corau yng Nghymru heddiw. Perfformir ei waith yn gyson gan gorau amataur a phroffesiynol.

4. CEILIOG FFESANT gan Mared Emlyn; geiriau gan J. M. Edwards
Cyfansoddiad ar gyfer lleisiau TTBB gan y gyfansoddwraig a’r delynores Mared Emlyn. Mae Mared wedi cael llwyddiant eithriadol gyda’i gwaith cyfansoddi. Fe chwaraewyd ei gwaith i gerddorfa ‘Porthoer’ gan Gerddorfa Gymreig y BBC yn 2016 ac fe’i darlledwyd ar Radio 3.

5. TRI CYFANSODDIAD NEWYDD gan Gareth Hughes Jones
Mawl yr Hedydd; geiriau gan Myrddin ap Dafydd, ar gyfer lleisiau TTBB
Cofio; geiriau gan Waldo Williams, ar gyfer lleisiau TTBB
Chwilio; geiriau gan W. Rhys Nicholas, ar gyfer lleisiau TTBB

Dyma dri ychwanegiad at y darnau a gyhoeddwyd eisoes gan Gareth (gweler isod)

6. UNAWDAU gan Brahms.
Ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Penybont-ar-Ogwr 2017, gosodwyd nifer o unawdau gan Brahms ar gyfer y gystadleuaeth Unawd 19-25 oed. Cyhoeddwyd ‘Nosgan Serch’ a ‘Cân Saphig’ eisoes; y ddwy unawd a gyhoeddir yn awr yw ‘Hwyr o Haf’ (yn Bb a G) - geiriau Cymraeg gan Alan Llwyd, ac ‘Am Gariad Tragwyddol’ (yn C♯ leiaf a B leiaf) - geiriau Cymraeg gan John Stoddart.


Mehefin 2015

DAU DDARN I GORAU MEIBION GAN GARETH HUGHES JONES

  1. Far Rockaway - geiriau Iwan Llwyd
  2. Cerdd yr Hen Chwarelwr - geiriau W.J.Gruffydd

Ganwyd Gareth Hughes Jones ym Mangor yn 1950. Bu’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Tywyn, yna’n fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, cyn cychwyn gweithio fel athro cerdd yn Llandâf , Aberaeron, Brynrefail a Choleg Meirion Dwyfor.

Yn ystod wythdegau’r ganrif ddiwethaf cafodd gyfnod yn gweithio yn y diwydiant cerdd gyda chwmni recordiau Sain yn Llandwrog.

Yn flynyddol ers 1990, bu’n Gyfarwyddwr Cerdd Wythnos Treftadaeth Cymru, Gogledd America a Chanada, gan deithio’n helaeth yn y wlad honno. Hefyd yn 1993 teithiodd i Melbourne yn nhalaith Victoria, Awstralia, i arwain Cymanfa Ganu y dalaith honno.

Yn dilyn ei ymddeoliad, mae gan Gareth amser bellach i gyfansoddi ar gyfer lleisiau meibion. Pam lleisiau meibion? Dywed iddo gael ei gyfareddu a syrthio mewn cariad â sain felfedaidd Côr Meibion Dyffryn Nantlle wrth wrando ar ‘Sêr y Siroedd’ ar y radio yn ystod pumdegau’r ganrif ddiwethaf, a bod y sain honno wedi selio yn y cof am byth.


Mehefin 2015

CYHOEDDI REQUIEM AC EMYN O FAWL

Y mis hwn cyhoeddir dau waith clasurol sylweddol: Requiem Brahms ac Emyn o Fawl Mendelssohn. Bu’r ddau ddarn yn rhan o gatalog Cwmni Gwynn ers 1946, ond mewn fersiwn sol-ffa yn unig. Mae’r fersiynau hynny yn dal i fod mewn print, ond bellach mae fersiynau cyflawn ar gael hefyd mewn hen nodiant (a chyfeiliant piano), gyda geiriau Cymraeg gan Enid Parry. Golygwyd y gerddoriaeth gan Mared Emlyn.

Er gwaethaf ambell i gri o’r galon am adfer y gallu i ddarllen sol-ffa, yn anffodus mae’n rhaid i gwmnïau cyhoeddi gydnabod realiti’r sefyllfa, mai prinhau yn ddifrifol y mae’r cantorion hynny sydd wedi eu trwytho mewn sol-ffa. Ymhlith y genhedlaeth iau mae sôn am sol-ffa fel sôn am iaith farw fel Lladin!

Cyfansoddodd Brahms ei Requiem rhwng 1865 a 1868, a hwn yw ei gyfansoddiad hiraf, gyda saith symudiad. Mae’n cynnwys unawdau soprano a bariton, ac wrth gwrs, gorws SATB. Gellir archebu unrhyw ran unigol o’r Requiem ar wahân os dymunir.

Cyfansoddodd Mendelssohn ei Emyn o Fawl yn 1840. Mae angen dwy unawdydd soprano ac unawdydd tenor i’w berfformio, ynghyd â chorws SATB. Gellir archebu unrhyw ran unigol o’r Emyn o Fawl ar wahân os dymunir.


Mai 2015

ER COF AM MERVYN BURTCH
(1929 - 2015)

Gyda thristwch y cofnodir marwolaeth y cerddor Mervyn Burtch, y gŵr o Gwm Rhymni a fu’n athro cerdd ym Margoed ac Ystrad Mynach, yn Bennaeth Perfformio Coleg Cerdd a Drama Caerdydd, ac yn gyfansoddwr amryddawn. Cafodd lwyddiant arbennig yn cyfansoddi darnau ar gyfer plant a phobl ifanc.

Yng nghatalog Gwynn, gweler Genedigaeth Taliesin (SATB), a’r trefniannau o ganeuon gwerin ar gyfer lleisiau meibion: Deryn y Bwn, Dacw ’Nghariad, Rew di Ranno, Mae ’Nghariad i’n Fenws, Hela’r Sgyfarnog. (Mae Deryn y Bwn ar gael hefyd mewn fersiwn SATB).


Ionawr 2015

ER COF ANNWYL AM 
RHYS JONES
1927-2015

Cerddor a gwr y bu'n bleser cael cydweithio ag ef ar hyd y blynyddoedd.
Un o'r cewri.
(gweler ei ddwy gyfrol Digon i Mi a Razzamatazz)

Hydref 2013Ieuan Wyn
Cyhoeddi Gwaith Tlws y Cerddor: ‘Cariad’ gan Ieuan Wyn
Rhif Catalog 3128. Pris £1.95

Braint i Gwmni Gwynn yw cael cyhoeddi gwaith buddugol Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r Cyffiniau, 2013:, sef‘Cariad’ gan Ieuan Wyn, darn digyfeiliant i gôr SATB, y geiriau gan Myrddin ap Dafydd.

Yn ôl beirniaid y gystadleuaeth, Sioned James ac Owain Llwyd, roedd Ieuan Wyn wedi dewis alaw syml a phrydferth wedi'i phlethu â harmonïau soniarus a hudol : "Mae natur y darn yn gweddu i unrhyw gôr amatur cyfoes ac mae'n ddarn gafaelgar o'r bar cyntaf. Er yn syml ar yr olwg gyntaf, mae'r harmonïau'n gyfoethog ac mae dynameg amrywiol y darn yn gofyn am gryn ddisgyblaeth leisiol.”

Yn ogystal â’r Tlws ei hun, enillodd Ieuan £2,000 o wobr ariannol i hyrwyddo ei yrfa fel cerddor.

Meddai Ieuan:
“Wrth baratoi i ysgrifennu darn corawl o’r math yma, dwi wastad yn edrych am eiriau da. Dwi’n gredwr cryf yn y berthynas rhwng y geiriau a’r gerddoriaeth. Os nad ydw i’n hapus gyda’r geiriau rwyf wedi eu dewis i ddarn penodol, anaml iawn fyddai’r darn hwnnw’n cael gweld golau ddydd. Am y rheswm hwn, treuliais lawer o amser yn darllen trwy gyfrolau barddoniaeth fy nhadcu a’mrhieni.

“Pan ddes i o hyd i eiriau‘Cariad’ gan Myrddin ap Dafydd yn y gyfrol ‘Geiriau Gorfoledd a Galar’, roeddwn yn sicr o’r cychwyn fy mod wedi dod o hyd i’r geiriau cywir. O’r eiliad i mi eu darllen, roeddwn yn medru clywed yr alaw yn dechrau ffurfio yn fy mhen. Syrthiodd elfennau eraill y darn i’w lle yn fuan ar ôl dod o hyd i’r geiriau. Felly mae fy nyled yn fawr i Myrddin ap Dafydd!”

Ganwyd Ieuan yn yr Eglwysnewydd yng Nghaerdydd. Ar ôl derbyn ei addysg uwchradd yn ysgolion Plasmawr a Glantaf, symudodd i Fangor i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Wedi hynny, addysgwyd ef ymhellach ar gwrs MSc Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth yn yr Atrium, Prifysgol Morgannwg.

Ers cwblhau ei addysg, mae wedi bod yn gweithio fel recordydd sain i gwmni adnoddau ‘Gorilla’ yn y brifddinas. Trwy ei waith, mae wedi bod yn ffodus iawn i gael y cyfle i gyfansoddi a threfnu nifer o ganeuon i’w darlledu ar Cyw a Stwnsh ar S4C. Dros y blynyddoedd, mae Ieuan hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru dair gwaith gan gynnwys ennill y drydedd wobr yn 2008.

Mae’n aelod o Gôr Caerdydd ers blynyddoedd, lle y cafodd y cyfle cyntaf i drefnu ac ysgrifennu gweithiau corawl. Yn ddiweddar, cafodd gomisiwn i ysgrifennu darn gwreiddiol ar gyfer y côr; mae’r darn ‘Caerdydd’ bellach i’w glywed ar eu cryno-ddisg newydd a chafodd ei berfformio gan Aelwyd y Waun Ddyfal yng Nghystadleuaeth Côr Cymru 2013.


Hydref 2013
Unwaith Eto'n Nghymru Annwyl i Gôr TTBB

Gorau meibion Cymru, dalier sylw: mae trefniant newydd gan D. Lynn Thomas o’r hen gân boblogaidd hon yn awr ar gael.
Rhif catalog 4088. Pris £2.35


Gorffennaf 2013
Darnau Gosod yr Urdd 2014
Mae darnau gosod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Meirionnydd 2014, yn awr ar gael:

Gwely Lliwiau’r Hydref, Mari Lloyd Pritchard (2523). Pris: £3.50 yr un; £3 yr un am ddau neu fwy
Fy Alarch, Grieg (mewn dau gywair). Cywair F allan o ‘Caneuon y Cenhedloedd’ (9014), Pris £6.50. Cywair D, copi unigol, Pris £2.75.
Y Penblwydd, Sioned Webb (2520). Pris £2.95
Gardd f’Anwylyd, Bradwen Jones (5504). Pris £4.25
Breuddwydion, Eirian Owen (5055). Pris £2.50
Croesi’r Paith, Sioned Webb (4087). Pris arbennig am becyn o 8: £15
Coch Bach Y Bala, Sioned Webb (2524). Pris arbennig am becyn o 10: £19.50
Law yn Llaw, Fiona Bennett (2521). Pris arbennig am becyn o 10: £19.50
Ddigymar Ddawn y Gân, Schubert (mewn dau gywair, D a Bb) (80079). Pris £2.75
Dod ar fy Mhen, Mari Lloyd Pritchard (2518). Pris arbennig am becyn o 10: £17.50
Caneuon Traddodiadol y Cymry (8403). Pris £8.00


Ebrill 2013
Cyhoeddi Tant – 101 o alawon telyn traddodiadol.
Wedi eu trefnu ar gyfer telynau di-bedal yn ogystal â thelynau pedal
Golygwyd gan Siân James a Sioned Webb

Wyth can mlynedd yn ôl fe haerodd Gerallt Gymro fod yna delyn ym mhob tŷ y bu ynddo yn ystod ei daith drwy Gymru! Gwir neu beidio, bu’r delyn heb amheuaeth yn rhan annatod o’r traddodiad cerddorol Cymreig ers amser hir iawn.
O’r diwedd, dyma gasgliad o alawon telyn lle ceir cyfran sylweddol o’r repertoire Gymreig yn hwylus o fewn cloriau un llyfr. Dyma’r tro cyntaf am o leiaf 150 o flynyddoedd i gasgliad o’r fath gael ei roi at ei gilydd!
Alawon gwerin yw y rhain, yn eu holl symlrwydd a phrydferthwch, wedi eu trefnu mewn ffurf mor sylfaenol â phosibl. Golyga hyn y gellir eu chwarae ar delyn werin yn ogystal ag unrhyw fath arall o delyn – neu unrhyw offeryn arall o ran hynny.
Fe wnaed y trefniannau i gyd gan ddwy delynores sy’n gerddorion profiadol ac yn amlwg yn y byd gwerin a thraddodiadol Cymreig.
Siân James yw un o gantorion gwerin amlycaf Cymru. Fe’i magwyd ym mhentref bach Llanerfyl yn yr hen Sir Drefaldwyn lle y triga hyd heddiw. Dechreuodd ar ei llwybr fel telynores o dan adain Frances Môn Jones, a’i hanogodd i ganu i gyfeiliant ei thelyn ei hun. Astudiodd gerddoriaeth yn Mhrifysgol Bangor o dan arweiniad yr Athro William Mathias, lle mae hi bellach yn Gymrodor er Anrhydedd am ei chyfraniad i ddiwylliant Cymru. Erbyn hyn mae hi wedi rhyddhau naw albwm o’i gwaith. Y ddiweddaraf yw ‘Cymun’, a dderbyniodd adolygiadau twymgalon.

Mae Sioned Webb yn gerddor gyda phrofiad helaethfel golygydd cerdd. Bu’n Bennaeth Adran Gerdd Ysgol Tryfan, Bangor, ac yn Gyfarwyddwr Artistig Canolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon. Bellach mae hi’n diwtor, cyfeilydd, cyfansoddwraig, darlithydd ac awdur ar ei liwt ei hun. Enillodd Wobr Goffa John Weston Thomas ar y delyn deires yn Eisteddfod Genedlaethol 2007 a bu’n perfformio fel telynores yng Nghymru a thramor.


Ionawr 2013
Cyhoeddi Cerddoriaeth y Tair Oes Fawr gan Sioned Webb

Yn hanes cerddoriaeth mae’r cyfnodau Baróc, Clasurol a Rhamantaidd yn allweddol bwysig. Ond pa fath o gerddoriaeth a gysylltir â’r cyfnodau hyn? Beth yw sonata? Neu goncerto, opera, symffoni neu lied? Sut wnaeth y ffurfiau ddatblygu, a pha gyfansoddwyr a gysylltir â nhw? Dyma’r math o gwestiynau y ceisir eu hateb yn y llyfr hwn.
Llawlyfr ymarferol ydyw lle ceir dadansoddiad o ddeg ar hugain o weithiau cerddorol unigol o’r ‘tair oes fawr’. Cymorth hanfodol i’r dadansoddiad hwnnw yw’r ddwy gryno ddisg a ddaw gyda’r llyfr, gyda dros ddwy awr o weithiau cerddorol amrywiol.
Meddai Eric W. Phillips, Prif Arholwr Cerddoriaeth Lefel A Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru 2012:
Yn dilyn llwyddiant ‘Cerddoriaeth yr 20fed Ganrif’, mae Sioned Webb wedi creu llyfr arall ardderchog. Mae hi’n ymdrin â cherddoriaeth y cyfnodau dan sylw mewn dull gwybodus, apelgar a chyffrous, ac yn ei gyflwyno’n gryno mewn penodau sy’n ysgogi’r meddwl.
Ac meddai Llio Penri, Pennaeth Adran Gerdd Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth:
Bydd hwn yn adnodd eithriadol o ddefnyddiol ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd neu unrhyw un sydd am ddyfnhau eu dealltwriaeth gerddorol. Mewn arddull eglur, ymarferol, a dadansoddol, mae’n llyfr sy’n gwneud inni feddwl am yr hyn rydym yn ei glywed.
Mae Sioned Webb yn gerddor gyda phrofiad helaeth fel athrawes gerdd a thiwtor piano. Bu’n Bennaeth Adran Gerdd Ysgol Tryfan, Bangor, ac yn Gyfarwyddwr Artistig Canolfan Gerdd William Mathias, Caernarfon. Bellach mae hi’n diwtor, cyfeilydd, cyfansoddwraig, darlithydd a thelynores ar ei liwt ei hun.
Hi yw awdur Cerddoriaeth Ddu’r Ugeinfed Ganrif, Cerddoriaeth Cymru, a Cerddoriaeth yr Ugeinfed Ganrif.


Ionawr 2010
Myfyrwraig Gwaith Ymchwil

Mae Cwmni Cyhoeddi Gwynn yn falch o gael croesawu myfyriwr ymchwil o Brifysgol Cymru, Bangor, am gyfnod o flwyddyn i fagu profiad ac i hybu rhai agweddau penodol o waith y cwmni. Mae hwn yn drefniant o dan gynllun KESS (Knowledge Economy Skills Scholarship) y Brifysgol. Un o bentref Eglwysbach yn Nyffryn Conwy yw Mared Emlyn. Graddiodd mewn Cerddoriaeth yn Ysgol Gerdd Prifysgol Cymru, Bangor y llynedd, gan arbenigo ar y delyn, a bellach mae hi'n dilyn cwrs MA ac yn gobeithio mynd ymlaen y flwyddyn nesaf i ddilyn cwrs doethuriaeth. Bydd yn gweithio'n rhan amser i'r cwmni tra'n dilyn ei chwrs.


Gorffennaf 2009
Gweithiau newydd gan Gareth Glyn

Mae Cwmni Cyhoeddi Gwynn yr wythnos hon yn cyhoeddi 15 o ddarnau corawl gan Gareth Glyn. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddarnau newydd sbon, ac eraill yn ddarnau a gyfansoddwyd dros gyfnod o rai blynyddoedd ar gyfer corau unigol neu achlysuron penodol, ond heb eu cyhoeddi i’r byd cyn hyn. Mae 11 o’r darnau ar gyfer côr cymysg a phedwar darn ar gyfer côr meibion.
Mae’r casgliad yn cynnwys amrywiaeth fawr o ran cynnwys a naws. Er enghraifft, ar un llaw, y gosodiad gorfoleddus o Salm 150 (darn a berfformiwyd gan Gôr Pontarddulais gyda Cherddorfa Symffoni Gymreig y BBC), ac ar y llaw arall, ‘Traed’ – cerdd dafod-yn-y-boch gan Gwyn Thomas yn disgrifio baban yn darganfod ei draed am y tro cyntaf!

Mae hanes diddorol hefyd y tu ôl i ‘Brodyr i’w Gilydd’. Cyfansoddwyd y geiriau yn wreiddiol gan wraig Gareth, Eleri Cwyfan, yn dilyn cwymp mur Berlin ym 1989. Mae’n cynnwys geiriau fel Dymchwelwyd y muriau, digwyddodd gwyrth, Torrodd y wawrddydd hardd….O Arglwydd rhwyma ni yn fyd cytun, Cadwynau cariad yn ein clymu’n un. Drwy gyd-ddigwyddiad, roedd Cwmni Gwynn yn danfon y copi terfynol o'r gwaith i’r wasg ar yr union ddiwrnod yr etholwyd Barack Obama yn Arlywydd yr Unol Daleithiau – ac roedd y geiriau yn ymddangos yn arbennig o briodol ar y diwrnod hwnnw, ugain mlynedd yn ddiweddarach, yn ogystal â’r teitl Saesneg ‘Never Was Dawn So Bright’.

Mae’r amrywiaeth yng nghynnwys y darnau yn adlewyrchu amrywiaeth awduron y cerddi gwreiddiol – Gwyn Thomas, Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd, Gwenallt, Saunders Lewis, Gwynn ap Gwilym, Geraint Vaughan Jones, Elinor Wyn Reynolds, Gwyneth Evans, a hyd yn oed Madog ap Gwallter, bardd o’r 13eg ganrif (‘Mab a’n Rhodded’).

Mae’r rhan fwyaf o’r darnau ar gael gyda geiriau yn Gymraeg a Saesneg – y geiriau yn amlach na pheidio wedi eu cyfieithu i’r Saesneg gan Gareth Glyn ei hun.

Meddai Gareth Glyn: “Mae cael cynifer o gyfansoddiadau o’m heiddo yn ymddangos o’r wasg ar yr un pryd yn unigryw yn fy mrhofiad i, ac mi rydw i’n hynod o ddiolchgar i Gwmni Gwynn am ymgymryd â’r rhaglen gyhoeddi uchelgeisiol hon, a hefyd am eu gofal a dychymyg wrth gynllunio diwyg y cloriau atyniadol. Rydw i’n gobeithio y bydd yna rywbeth yn y gyfres hon at ddant a gallu corau o bob cyrhaeddiad.”

Meddai Rheolwr Cwmni Gwynn, Arfon Gwilym: “Braint arbennig yw cyhoeddi casgliad fel hwn gan un o’r cerddorion uchaf ei barch yng Nghymru heddiw. Mae’n anodd dychmygu neb sy’n fwy cynhyrchiol na Gareth na gyda chystal dawn i greu cerddoriaeth sy’n cyfleu union naws y geiriau, a hynny mewn arddull unigryw gyfoes. Bydd y darnau yn ychwanegiad hynod o werthfawr i repertoire corau, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd.”


Rhagfyr 2009
Caneuon Migmas

Yr wythnos yma cyhoeddir casgliad o ganeuon i blant sy’n debyg o ddod yn gyfarwydd iawn ledled Cymru yn y blynyddoedd nesaf oherwydd eu hapêl arbennig.

Darlledwyd y caneuon i gyd yn wreiddiol yn y gyfres deledu i blant, MIGMAS, rai blynyddoedd yn ôl – cyfres oedd yn hynod o boblogaidd ar y pryd.

Mae’r gyfrol yn ffrwyth cydweithrediad pedwar aelod o’r un teulu, sef Dyfan Roberts, cynhyrchydd y gyfres deledu, actor yn y gyfres, ac awdur geiriau’r caneuon i gyd; Efa Dyfan ei ferch, sy’n gyfrifol am y darluniau hyfryd sy’n britho’r gyfrol drwyddi draw (mae Efa yn dilyn cwrs Celf yng Ngholeg Menai ar y funud); Angela Roberts, gwraig Dyfan, awdures y straeon gwreiddiol; a Sioned Webb, chwaer-yng-nghyfraith Dyfan, sy'n gyfrifol am yr holl drefniannau.

Awdur cerddoriaeth y caneuon yw Dilwyn Roberts o Ddeganwy (dim perthynas!).

Mae cyfeiliant piano ar gael i’r holl ganeuon, ond i gydfynd gyda’r gyfrol hefyd, er hwylustod cyhoeddir cryno ddisg o’r holl ganeuon. Codwyd yr holl ganeuon o draciau sain gwreiddiol y rhaglenni teledu, sy’n golygu fod modd gwerthfawrogi’r holl leisiau a’r holl gymeriadau rhyfedd.

Anturiaethau tri chymeriad oedd sail y gyfres – Abra, Fflip a Mr Mŵ – y tri yn byw yng Nghastell Migmas ac yn cael pob math o brofiadau wrth drin pethau coll y byd. Caneuon syml, llawn doniolwch ydyn nhw: er enghraifft, cân am broblemau bwyta gormod o ffa, cân am Nain ryfedd sydd wrth ei bod dyn taflu dillad ar lawr a gwneud pob man yn flêr, a chân am fam cŵn bach yn canu’r blŵs am fod ei chŵn bach ar goll.

Pan oedd y cymeriadau hyn i’w gweld a’u clywed ar gyfres deledu Migmas ar S4C, roedd plant Cymru wrth eu boddau, a’r ymateb yn frwd o bob cyfeiriad. Bydd cyhoeddi’r detholiad hwn o ganeuon gorau’r gyfres yn gyfle i blant Cymru ail-greu hwyl a phleser y gyfres deledu wreiddiol unwaith eto.


Ebrill 2008
Pwyll ap Sion

Bydd y cyfansoddwr Pwyll ap Sion yn derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol mewn cystadleuaeth ffidil bwysig yng Nghaerdydd sy’n cychwyn ar Ebrill 11eg.

Fe ddewiswyd darn Pwyll ap Sion i ffidil unawdol, Y Gwenith Gwyn, fel un o’r darnau prawf i offerynwyr ifanc o dan 16 oed yng Nghystadleuaeth Menhuin – cystadleuaeth fydd yn ymestyn dros dri diwrnod. Bydd y darn hefyd yn cael ei berfformio yn y cyngerdd Gala mawr sy’n cloi’r ŵyl yng Nghanolfan y Mileniwm nos Sul, 20fed Ebrill, pan fydd y prif wobrau i gyd yn cael eu cyflwyno.

Mae’r darn hefyd wedi ymddangos y mis hwn yn un o brif gylchgronau’r byd ar gyfer feiolinwyr, The Strad.

Cystadleuaeth Menuhin yw’r brif gystadleuaeth ryngwladol i feiolinwyr ifanc. Fe’i sefydlwyd gan Yehudi Menuhin ym 1983 a bydd yn dathlu ei phenblwydd yn 25 oed yng Nghaerdydd eleni. Mae’r gystadleuaeth yn denu rhai o ddoniau offerynnol disgleiriaf y byd; mae enillwyr blaenorol megis Tasmin Little a Nikolaj Znaider, wedi cael llwyddiant rhyngwladol ar y lefel uchaf bosibl.

“Mae hwn yn gyfle mawr i mi,” meddai Pwyll. “Cefais wahoddiad gan y pianydd a chyfarwyddwr cystadleuaeth Menuhin, Gordon Back, i ysgrifennu darn ar gyfer y digwyddiad yng Nghaerdydd. Cytunai’r ddau ohonom y byddai’n addas i gyflwyno elfen Gymreig, felly mi es ati i gyfansoddi thema a phedwar amrywiad ar ‘Bugeilio’r Gwenith Gwyn’. Pwysleisiodd Gordon na ddylwn deimlo unrhyw lyffethair, oherwydd byddwn yn ysgrifennu ar gyfer rhai o offerynwyr mwyaf talentog y byd.”

Mae Pwyll, sy’n ddarlithydd hŷn yn Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Cymru, Bangor, wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer perfformwyr amlwg iawn, gan gynnwys Bryn Terfel, Iwan Llewelyn-Jones, Jeremy Huw Williams, a Llŷr Williams, a hefyd cerddorion o’r tu hwnt i Gymru, megis y grwp Siapaneaidd, Ensemble Tozai. Ymddangosodd ei gerddoriaeth ar gryno ddisgiau gan gynulliad pres y Cwmni Opera Cenedlaethol, Jeremy Huw Williams (Bariton), Iwan Llewelyn-Jones (Piano), y soprano Buddug Verona James, a Deuawd Biano Davies (mae’r ddeuawd hon, Helen a Harvey Davies, ar daith ar hyn o bryd yn hyrwyddo eu CD newydd ac yn perfformio un o ddarnau Pwyll i’r piano, ‘Emyn’).

Cyhoeddir The White Wheat / Y Gwenith Gwyn gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn, Talysarn, ynghyd â dau ddarn arall tebyg, hefyd yn seiliedig ar alawon Cymreig adnabyddus, Y Deryn Pur a’r Bore Glas.

Ei gyfansoddiad diweddaraf yw un ar gyfer lleisiau meibion o’r enw Diwedd, er cof am y cyfansoddwr Cymreig adnabyddus Alun Hoddinott a fu farw ym mis Mawrth eleni.

Dywedodd Arfon Gwilym, Rheolwr Cwmni Cyhoeddi Gwynn, ei fod wrth ei fodd fod Y Gwenith Gwyn wedi ei ddewis ar gyfer achlysur fel hwn. “Mae’n gwbl briodol fod cyfansoddwr Cymreig a cherddoriaeth Gymreig yn cael lle mor amlwg pan fydd gŵyl bwysig fel hon yn dod i Gymru. Mae Pwyll ap Sion yn un o’r cyfansoddwyr mwyaf cynhyrchiol yng Nghymru heddiw, ac mae’n fraint i gwmni Gwynn gyhoeddi ei gerddoriaeth ac i hybu ei yrfa ym mhob ffordd bosibl.”

Bookmark and Share