Grace Williams (1906-1977)

Ganwyd Grace Williams (1906-1977) yn y Bari, ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg y Bari cyn graddio gyda B.Mus yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd yn 1926. Parhaodd ei hastudiaethau cerddorol gyda Vaughan Williams a Gordon Jacob yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, ynghyd â Egon Wellesz yn Fienna. Wedi cyfnod o ddysgu yn Ysgol Ferched Camden Llundain, ac yna Coleg Addysgol Southlands, dychwelodd i Gymru yn 1946 i weithio ar wahanol raglenni addysgol i’r BBC ac fel cyfansoddwraig llawrydd.
Yn gynnar yn ei gyrfa fe sefydlodd ei hun fel un o brif gyfansoddwyr ei chyfnod yng Nghymru, gan weithio gan amlaf i gomisiwn gan y BBC a gwahanol wyliau cerddorol. Bu cyfraniad ei chaneuon a’i darnau corawl o bwys mawr i’r repertoire lleisiol Gymreig, gyda nifer o drefniannau gwerin (megis Dacw ‘Nghariad i Lawr yn y Berllan a Hela Llwynog) a rhan-ganau megis Yr Eos a Rhosyn Duw yn dangos aeddfedrwydd creadigol. Ceir nifer o recordiadau o’i cherddoriaeth ar labeli Chandos a Lyrita.

Yn ôl i'r dudalen cyfansoddwyr.