Ganed Pwyll ap Siôn yn Sir Benfro yn 1968. Astudiodd gyda Gareth Glyn, ac yna mynd i Goleg Magdalen, Rhydychen, gan raddio yno yn 1990. Aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Bangor, gan astudio gyda John Pickard, David Gottlieb a Martin Butler. Cwblhaodd ei ddoethuriaeth yn 1998. Bu’n ddarlithydd ym Mangor ers 1993. Enillodd Wobr Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Delyn a’r Cylch yn 1991.
Mae Pwyll wedi cyfansoddi ar gyfer rhai o berfformwyr amlycaf Cymru, gan gynnwys Bryn Terfel, Iwan Llewelyn-Jones, Jeremy Huw Williams, a Llŷr Williams, ynghŷd ag artistiaid o’r tu hwnt i Gymru, megis Ensemble Tozai.
Clywir ei gerddoriaeth ar recordiau gan Bumawd Prês Opera Cenedlaethol Cymru, Jeremy Huw Williams (Baritone), Iwan Llewelyn-Jones (Piano), y gantores Buddug Verona James, a Deuawd Biano Davies.
Dengys nifer o elfennau eclectaidd i’w arddull gerddorol, gan gynnwys lleiafsymiaeth, canu roc a phop, ôl-gyfresiaeth, ymwybyddiaeth o elfennau traddodiadol Cymreig, a’r defnydd o ddyfyniadau.
Yn ôl i'r dudalen cyfansoddwyr.
© Hawlfraint 2019 - Cwmni Cyhoeddi Gwynn - Gwefan gan Delwedd