Cyhoeddi Gwaith Tlws y Cerddor: ‘Cariad’ gan Ieuan Wyn

Dyddiad: Hydref 2013

Rhif Catalog 3128. Pris £1.95

Braint i Gwmni Gwynn yw cael cyhoeddi gwaith buddugol Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r Cyffiniau, 2013:, sef‘Cariad’ gan Ieuan Wyn, darn digyfeiliant i gôr SATB, y geiriau gan Myrddin ap Dafydd.

Yn ôl beirniaid y gystadleuaeth, Sioned James ac Owain Llwyd, roedd Ieuan Wyn wedi dewis alaw syml a phrydferth wedi'i phlethu â harmonïau soniarus a hudol : "Mae natur y darn yn gweddu i unrhyw gôr amatur cyfoes ac mae'n ddarn gafaelgar o'r bar cyntaf. Er yn syml ar yr olwg gyntaf, mae'r harmonïau'n gyfoethog ac mae dynameg amrywiol y darn yn gofyn am gryn ddisgyblaeth leisiol.”

Yn ogystal â’r Tlws ei hun, enillodd Ieuan £2,000 o wobr ariannol i hyrwyddo ei yrfa fel cerddor.

Meddai Ieuan:
“Wrth baratoi i ysgrifennu darn corawl o’r math yma, dwi wastad yn edrych am eiriau da. Dwi’n gredwr cryf yn y berthynas rhwng y geiriau a’r gerddoriaeth. Os nad ydw i’n hapus gyda’r geiriau rwyf wedi eu dewis i ddarn penodol, anaml iawn fyddai’r darn hwnnw’n cael gweld golau ddydd. Am y rheswm hwn, treuliais lawer o amser yn darllen trwy gyfrolau barddoniaeth fy nhadcu a’mrhieni.

“Pan ddes i o hyd i eiriau‘Cariad’ gan Myrddin ap Dafydd yn y gyfrol ‘Geiriau Gorfoledd a Galar’, roeddwn yn sicr o’r cychwyn fy mod wedi dod o hyd i’r geiriau cywir. O’r eiliad i mi eu darllen, roeddwn yn medru clywed yr alaw yn dechrau ffurfio yn fy mhen. Syrthiodd elfennau eraill y darn i’w lle yn fuan ar ôl dod o hyd i’r geiriau. Felly mae fy nyled yn fawr i Myrddin ap Dafydd!”

Ganwyd Ieuan yn yr Eglwysnewydd yng Nghaerdydd. Ar ôl derbyn ei addysg uwchradd yn ysgolion Plasmawr a Glantaf, symudodd i Fangor i astudio Cerddoriaeth yn y Brifysgol. Wedi hynny, addysgwyd ef ymhellach ar gwrs MSc Peirianneg a Chynhyrchu Cerddoriaeth yn yr Atrium, Prifysgol Morgannwg.

Ers cwblhau ei addysg, mae wedi bod yn gweithio fel recordydd sain i gwmni adnoddau ‘Gorilla’ yn y brifddinas. Trwy ei waith, mae wedi bod yn ffodus iawn i gael y cyfle i gyfansoddi a threfnu nifer o ganeuon i’w darlledu ar Cyw a Stwnsh ar S4C. Dros y blynyddoedd, mae Ieuan hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Cân i Gymru dair gwaith gan gynnwys ennill y drydedd wobr yn 2008.

Mae’n aelod o Gôr Caerdydd ers blynyddoedd, lle y cafodd y cyfle cyntaf i drefnu ac ysgrifennu gweithiau corawl. Yn ddiweddar, cafodd gomisiwn i ysgrifennu darn gwreiddiol ar gyfer y côr; mae’r darn ‘Caerdydd’ bellach i’w glywed ar eu cryno-ddisg newydd a chafodd ei berfformio gan Aelwyd y Waun Ddyfal yng Nghystadleuaeth Côr Cymru 2013.

Yn ôl i'r dudalen newyddion.