Mae Cwmni Cyhoeddi Gwynn yr wythnos hon yn cyhoeddi 15 o ddarnau corawl gan Gareth Glyn. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ddarnau newydd sbon, ac eraill yn ddarnau a gyfansoddwyd dros gyfnod o rai blynyddoedd ar gyfer corau unigol neu achlysuron penodol, ond heb eu cyhoeddi i’r byd cyn hyn. Mae 11 o’r darnau ar gyfer côr cymysg a phedwar darn ar gyfer côr meibion.
Mae’r casgliad yn cynnwys amrywiaeth fawr o ran cynnwys a naws. Er enghraifft, ar un llaw, y gosodiad gorfoleddus o Salm 150 (darn a berfformiwyd gan Gôr Pontarddulais gyda Cherddorfa Symffoni Gymreig y BBC), ac ar y llaw arall, ‘Traed’ – cerdd dafod-yn-y-boch gan Gwyn Thomas yn disgrifio baban yn darganfod ei draed am y tro cyntaf!
Mae hanes diddorol hefyd y tu ôl i ‘Brodyr i’w Gilydd’. Cyfansoddwyd y geiriau yn wreiddiol gan wraig Gareth, Eleri Cwyfan, yn dilyn cwymp mur Berlin ym 1989. Mae’n cynnwys geiriau fel Dymchwelwyd y muriau, digwyddodd gwyrth, Torrodd y wawrddydd hardd….O Arglwydd rhwyma ni yn fyd cytun, Cadwynau cariad yn ein clymu’n un. Drwy gyd-ddigwyddiad, roedd Cwmni Gwynn yn danfon y copi terfynol o'r gwaith i’r wasg ar yr union ddiwrnod yr etholwyd Barack Obama yn Arlywydd yr Unol Daleithiau – ac roedd y geiriau yn ymddangos yn arbennig o briodol ar y diwrnod hwnnw, ugain mlynedd yn ddiweddarach, yn ogystal â’r teitl Saesneg ‘Never Was Dawn So Bright’.
Mae’r amrywiaeth yng nghynnwys y darnau yn adlewyrchu amrywiaeth awduron y cerddi gwreiddiol – Gwyn Thomas, Gerallt Lloyd Owen, Alan Llwyd, Gwenallt, Saunders Lewis, Gwynn ap Gwilym, Geraint Vaughan Jones, Elinor Wyn Reynolds, Gwyneth Evans, a hyd yn oed Madog ap Gwallter, bardd o’r 13eg ganrif (‘Mab a’n Rhodded’).
Mae’r rhan fwyaf o’r darnau ar gael gyda geiriau yn Gymraeg a Saesneg – y geiriau yn amlach na pheidio wedi eu cyfieithu i’r Saesneg gan Gareth Glyn ei hun.
Meddai Gareth Glyn: “Mae cael cynifer o gyfansoddiadau o’m heiddo yn ymddangos o’r wasg ar yr un pryd yn unigryw yn fy mrhofiad i, ac mi rydw i’n hynod o ddiolchgar i Gwmni Gwynn am ymgymryd â’r rhaglen gyhoeddi uchelgeisiol hon, a hefyd am eu gofal a dychymyg wrth gynllunio diwyg y cloriau atyniadol. Rydw i’n gobeithio y bydd yna rywbeth yn y gyfres hon at ddant a gallu corau o bob cyrhaeddiad.”
Meddai Rheolwr Cwmni Gwynn, Arfon Gwilym: “Braint arbennig yw cyhoeddi casgliad fel hwn gan un o’r cerddorion uchaf ei barch yng Nghymru heddiw. Mae’n anodd dychmygu neb sy’n fwy cynhyrchiol na Gareth na gyda chystal dawn i greu cerddoriaeth sy’n cyfleu union naws y geiriau, a hynny mewn arddull unigryw gyfoes. Bydd y darnau yn ychwanegiad hynod o werthfawr i repertoire corau, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd.”
Yn ôl i'r dudalen newyddion.
© Hawlfraint 2019 - Cwmni Cyhoeddi Gwynn - Gwefan gan Delwedd