Brian Hughes

Mae Brian Hughes yn cael ei gyfrif yn un o’r prif gyfansoddwyr corawl a cherddorfaol yng Nghymru heddiw. Perfformir ei waith yn gyson gan gorau amatur a phroffesiynol fel ei gilydd ym mhob rhan o’r wlad. Mae hefyd yn hyfforddwr lleisiol sy’n cael ei ystyried yn un o’r prif arbenigwr yn y maes.

Fe’i ganwyd yn Rhosllannerchrugog yn 1938, ac mae ei arbenigedd corawl yn arbennig yn deillio o’i brofiad fel arweinydd Côr Ysgol Alun, Yr Wyddgrug ac yna fel corfeistr Côr Brenhinol y Gogledd - y Royal Northern College of Music - ym Manceinion. Bu’n Gorfeistr yno ac yn Bennaeth Staff Cerddoriaeth Opera am dros 25 mlynedd. Bu’n gweithio gyda chorau proffesiynol megis Corws Opera Gŵyl Buxton, Cheltenham a Gothenburg, a chynhaliodd weithdai corawl ar hyd a lled Prydain.

Cynhyrchodd gorff enfawr o weithiau, yn amrywio o weithiau lleisiol a cherddorfaol ar raddfa fawr, i weithiau ar gyfer plant ac unigolion a grwpiau siambr. Enghreifftiau o’i waith yw Tyger! Tyger! Burning Bright (cerdd William Blake) a gomisiynwyd gan Eisteddfod Gydwladol Llangollen yn 2007 ar gyfer cystadleuaeth y Corau Meibion, Te Deum a gomisiynwyd gan Gymdeithas Gorawl Harrogate, Tanau ar gyfer cerddorfa simffoni a band pres (comisiynwyd gan y Proms Cymreig yn 2003), Pren Planedig ar gyfer soprano a cherddorfa (comisiynwyd gan Laudamus), Requiem ar gyfer côr cymysg a meibion (comisiynwyd gan Trawsnewid), The Bells of Paradise, concerto ar gyfer ffliwtiau, llinynnau ac offerynau taro - gwaith a ysbrydolwyd gan glychau enwog eglwys Gresford, un o saith rhyfeddod Cymru (comisiynwyd gan Sinfonia Cymru), Troad (a gomisiynwyd gan Gerddorfa Ieuenctid Cymru yn 2010), Quando, cerddoriaeth siambr ar gyfer clarinet, a Pieces for Miriam ar gyfer ffliwt.

Mae ei gerddoriaeth yn llawn egni a rhythmau, yn creu effeithiau dramatig yn aml ac yn cyfleu arddull ffres a chyfoes sy’n apelio’n uniongyrchol at y gwrandawyr.

Cyhoeddiadau o’i waith gan Gwmni Cyhoeddi Gwynn:
Deryn y Bwn o’r Banna SSA
A Ei Di’r Deryn Du? TTBB
Capel Tygwydd / Rise Up, O Men of God TTBB
Cariad Cyntaf SATB
Dafydd y Garreg Wen TB
Dafydd y Garreg Wen unawd

Yn ôl i'r dudalen cyfansoddwyr.