W.S. Gwynn Williams

Ganwyd William Stanley Gwynn Williams (1896-1978) yn Llangollen, ac heb unrhyw amheuaeth, ef oedd un o gerddorion mwyaf dylanwadol yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Bu’n flaenllaw mewn gweithgareddau amryw o sefydliadau cerddorol pwysicaf Cymru, gan fod yn Gyfarwyddwr Cerdd yr Orsedd (o 1923), Ysgrifennydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru (1932-58) gan olygu eu cylchgrawn (o 1946), Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen ers ei sefydlu yn 1947, Cadeirydd Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru (o 1969) a Golygydd a pherchennog Cwmni Cyhoeddi Gwynn o 1937.
Bu’n gyfansoddwr a threfnydd cynhyrchiol, gan ganolbwyntio ar ganeuon a darnau corawl, ynghyd â bod yn hanesydd o fri gyda’i lyfr Welsh National Music and Dance (1932) yn dal i gael ei gydnabod fel hanes cryno mwyaf cynhwysfawr o gerddoriaeth y wlad hyd heddiw. Yn ogystal, bu dylanwad y ddwy gyfrol o Ganeuon Traddodiadol y Cymry a’r casgliad o Ceinciau’r Cymry (1969) o bwys mawr dros y blynyddoedd.

Yn ôl i'r dudalen cyfansoddwyr.