Polisi Cyfrinachedd

Rydym yn ymrwymo i amddiffyn eich manylion personol. Byddwn yn defnyddio y wybodaeth rydym yn ei dderbyn ganddoch yn gyfreithiol (gan gadw i’r Ddeddf Amddiffyn 1998).

Mi fyddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch am 2 reswm: yn gyntaf, ar gyfer prosesu eich archeb, ac yn ail ar gyfer cynnig y gwasanaeth gorau posib i chi.

Ni fyddwn yn eich e-bostio yn y dyfodol heb eich caniatád.

Mi fyddwn yn rhoi’r cyfle i chi wrthod unrhyw e-bost marchnata ganddom yn y dyfodol.

Bydd y manylion byddem yn ei gasglu gennych yn cynnwys:

  • Eich enw
  • Eich cyfeiriad
  • Eich rhif ffôn
  • Eich cyfeiriad e-bost
  • Manylion cerdyn credyd/debyd
  • Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth sensitif amdanoch heb ganiatád.

Mi fyddwn yn cadw gwybodaeth am gwsmeriaid ar gyfer cyflymu’r broses archebu. Bydd y wybodaeth fydd gyda ni yn gywir a chyfredol. Gallwch wneud yn siwr fod eich manylion yn gywir gennym trwy ein e-bostio. Os byddwch yn darganfod manylion anghywir, gallwn eu dileu a’u cywiro yn brydlon.

Bydd y wybodaeth bersonol fydd gennym yn cael ei gadw’n saff gan gadw at ein rheolau diogelwch mewnol a’r gyfraith.