Polisi prynu a dychwelyd

Polisi Nwyddau:

Rydym yn gobeithio y byddwch wrth eich bodd bob tro y byddwch yn prynu oddi wrthym yn Gwynn.co.uk ond rhag ofn y byddwch angen dychwelyd nwyddau a ddanfonwyd atoch mewn camgymeriad, neu nwyddau sy'n wallus mewn unrhyw ffordd, nodir yma ein polisi:

Nwyddau gwallus:

Gellir dychwelyd unrhyw eitem o fewn 30 diwrnod i'w brynu os yw'r eitem hwnnw'n wallus. Noder: ni fyddwn yn derbyn nwyddau a ddychwelwyd wedi eu hagor oni fyddant yn wallus neu'n ddiffygiol. Byddwn yn falch o ad-dalu unrhyw gostau cludo neu bostio.

Costau postio ac ati:

Os ydych yn dychwelyd nwyddau am eu bod yn wallus neu'n anghywir, byddwn yn falch o ad-dalu unrhyw gostau cludo neu bostio. Mewn unrhyw achos arall, bydd y costau hynny, a chostau unrhyw wasanaeth arall a ddarperir ichi, yn disgyn arnoch chi.

Dychwelyd eitemau:

Wrth ddychwelyd unrhyw nwyddau, nodwch yn glir y rhesymau dros eu dychwelyd, paciwch nhw'n ofalus, a dychwelwch y pecyn i'r cyfeiriad isod (Mewn achos o nwyddau diffygiol, nodwch natur y diffyg, a dychwelwch yr eitem yn ei flwch gwreiddiol, os oes un):

Cwmni Cyhoeddi Gwynn, Canolfan Sain, Llandwrog, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5TG, Cymru

Er diogelwch ichi, argymhellwn eich bod yn defnyddio'r gwasanaeth cofrestru. Nid yw'r polisi hwn yn effeithio eich hawliau statudol.

Dalier Sylw:

Os dychwelir eitem a archebwyd gennych, ac sydd heb fod yn wallus, mi fyddwch chi'n gyfrifol am y costau postio/cludo.

Canslo eitem:

O dan ddeddfau Prydain, mae gennych yr hawl i ganslo unrhyw gytundeb prynu o fewn 7 niwrnod idderbyn y nwyddau. Mae hyn yn berthnasol i'n holl nwyddau, ond ni allwn dderbyn dileu unrhyw gytundeb ynglyn â phrynu copiau cerddoriaeth os ydynt eisoes wedi eu defnyddio. I ddileu'r cytundeb, rhowch nodyn gyda’r eitem gan nodi'r rheswm am ei dychwelyd fel "Dileu'r Cytundeb". Paciwch yr eitem yn ofalus a'i ddychwelyd gyda'r ffurflen i'n cyrraedd o fewn saith diwrnod gwaith o'r dyddiad y cawsoch ef. Chi fydd yn gyfrifol am gostau’r cludiant.